aEseia 15:1—16:14; Jeremeia 48:1-47; Eseciel 25:8-11; Amos 2:1-3; Seffaneia 2:8-11

Isaiah 25

Cân o fawl i Dduw

1Arglwydd, ti ydy fy Nuw i!

Dw i'n dy ganmol di! Dw i'n moli dy enw!
Ti wedi gwneud peth rhyfeddol –
rhywbeth gafodd ei gynllunio ymhell yn ôl;
ti'n gwbl ddibynadwy!
2Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig!
Troi'r gaer amddiffynnol yn adfeilion!
Gaiff y palas estron byth ei ailadeiladu!
3Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di!
A threfi'r cenhedloedd creulon yn dy barchu di!
4Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio;
yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng –
yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul.
Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm,
5neu fel gwres yr haul yn crasu'r tir,
rwyt ti'n tewi twrw'r estroniaid.
Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu'r gwres,
ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi.

Duw yn paratoi gwledd

6Ar y mynydd hwn bydd yr Arglwydd holl-bwerus
yn paratoi gwledd o fwyd blasus
i'r cenhedloedd i gyd.
Gwledd o winoedd aeddfed –
bwyd blasus gyda'r gwin gorau.
7Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio'r llen
sy'n gorchuddio wynebau'r bobloedd,
a'r gorchudd sy'n bwrw cysgod
dros y cenhedloedd i gyd.
8Bydd marwolaeth wedi ei lyncu am byth.
Bydd fy Meistr, yr Arglwydd, yn sychu'r dagrau
oddi ar bob wyneb,
a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o'r tir.

—mae'r Arglwydd wedi dweud.

9Bryd hynny bydd y bobl yn dweud:

“Dyma'n Duw ni;
yr un roedden ni'n disgwyl iddo'n hachub ni.
Dyma'r Arglwydd roedden ni'n ei drystio;
Gadewch i ni ddathlu a mwynhau ei achubiaeth.”
10Ydy, mae llaw yr Arglwydd yn gorffwys ar y mynydd hwn.

Cosbi Moab

Bydd Moab yn cael ei sathru ganddo
fel gwellt yn cael ei sathru mewn tomen. a
11Bydd yn estyn ei ddwylo ar led yn ei chanol,
fel nofiwr yn estyn ei ddwylo i nofio.
Bydd yn gwneud i falchder Moab suddo
hefo symudiad ei ddwylo.
12Bydd y waliau diogel sy'n eu hamddiffyn
yn cael eu bwrw i lawr ganddo;
bydd yn eu chwalu i'r llawr –
nes byddan nhw yn y llwch.
Copyright information for CYM